Pay and conditions
Materion Mamolaeth – Rhifyn Mai 2011
‘Materion Mamolaeth’ yw arweiniad cynhwysfawr yr NUT i hawliau mamolaeth athrawon, gan gynnwys rhannau manwl ar gyfnodau a chyflog tadolaeth a chyfnodau a chyflog mabwysiadu.
Graddfeydd Cyflog 2010-2011 (Mehefin 2010)
Graddfeydd cyflog o 1 Medi 2010 ar gyfer y pedair ardal gyflog. Cymru a Lloegr; Canol Llundain; Cyrion Llundain; Ardaloedd yr Ymylon. Mae’r graddfeydd yn cynnwys y cynnydd o 2.3 y cant o Fedi 2010 gyda chynnydd ychydig yn uwch ar y brif raddfa yng Nghanol Llundain.
Gadael eich swydd: cyfnodau rhybudd i athrawon
Mae’r briff hwn yn rhoi cyngor gan yr NUT ar gyfnodau rhybudd, dyddiadau ymddiswyddo ac ar eich cyflog yn ystod cyfnodau rhybudd.
Cyfnod & Chyflog Tadolaeth – Cyngor i Aelodau
Eglura’r cyngor hwn i aelodau’r NUT, hawliau rhieni plant newydd anedig cymwys i gyfnodau a chyflog tadolaeth.
Trefniadau ar gyfer Cyflenwi dros Athrawon – Mai 2001
Mae’r briff hwn yn delio gyda threfniadau ar gyfer y ddarpariaeth newydd ble y disgwylir i athrawon ‘prin gyflenwi’ yn unig o Fedi 2009.
Arweiniad yr NUT ar asesiadau Trothwy ar gyfer 2010-11: Rownd 11 (Ionawr 2011)
Cynigir cyngor gan yr NUT i ymgeiswyr ar broses asesiadau trothwy yng Nghymru a Lloegr ar gyfer Rownd 11. (Yn ôl cyngor yr Adran Addysg, er nad yw’r cyngor ar gyfer Rownd 11 wedi’i gyhoeddi eto, ni fydd unrhyw newidiadau ers Rownd 10, ar wahân i’r dyddiadau).
Arweiniad yr NUT ar daliadau CAD ar gyfer 2010-11
Mae’r ddogfen yn ystyried taliadau Cyfrifoldeb Dysgu ac Addysgu (CAD).
Arweiniad yr NUT ar Strwythur Cyflogau Athrawon ar gyfer 2010-11
Mae’r ddogfen yn amlinellu arweiniad yr NUT ar gyfer strwythur cyflogau athrawon ar gyfer 2010-11.
Athrawon Rhan Amser: Arweiniad yr NUT wedi’i ddiweddaru Mawrth 2011
Mae’r cyngor hwn gan yr NUT yn amlinellu sut mae’r system ddiwygiedig ar gyflogau ac amser gwaith athrawon rhan amser yn gweithio. Ceir hefyd gyngor gan yr NUT ar sut i gymhwyso’r ddarpariaeth ar gyfer bennu cyflog.
Yr Hawl i Wneud Cais i Weithio’n Hyblyg – Cyngor i Aelodau’r NUT
Bwriad y cyngor gan yr NUT yw crynhoi’r gweithdrefnau ffurfiol ac anffurfiol sydd ar gael i athrawon sy’n edrych am batrwm gweithio hyblyg er mwyn gofalu am blentyn neu i ofalu am oedolyn. Mae’r NUT yn argymell i chi ofyn am gyngor ganddynt cyn i chi gytuno i newid eich patrwm gweithio.
Athrawon Cyflenwi: Cyflog, Amodau & Amser Gweithio
Mae’r cyngor hwn gan yr NUT yn archwilio cyflog, amodau gwasanaeth ac amser gweithio athrawon cyflenwi. Mae’n ymdrin ag athrawon cyflenwi a gyflogwyd yn uniongyrchol gan ALlau neu ysgolion unigol a’r rhai a gyflogwyd gan asiantaethau athrawon cyflenwi sy’n gosod eu cyflogau a’u hamodau eu hunain.











